Text Size  small fontmedium fontlarge font
ContinYou - Newid bywydau drwy ddysgu
Mae ContinYou yn anelu at agor cyfleoedd dysgu fydd yn helpu pobl i newid eu bywydau, gan wella lles unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Gwahoddiad i ymuno a'r Gyfnewidfa Addysg

Os ydych yn gweithio yng Nghymru, yn datblygu, rhedeg a chefnogi dysgu tu-allan-i-oriau-ysgol a rhaglenni a gweithgareddau sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned, mae’r Gyfnewidfa Addysg yn rhwydwaith ddefnyddiol i ymuno a hi.

Mae'r Gyfnewidfa Addysg yn cynnig

  • Fforwm a chyfleusterau blogio lle y gallwch gysylltu gyda chydweithwyr, yng Nghymru neu rhywle arall -  mewn ysgolion, awdurdodau lleol neu gymunedau - i rannu newyddion, arfer da, awgrymiadau, cysylltiadau gwe, canllawiau a chyngor, neu i ofyn cwestiynau.
  • E-lythyr wythnosol sy’n diweddaru beth sy’n newydd ar y safle, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â beth sy’n cael ei drafod ar fforymau neu flogiau, ac sy’n caniatáu i ymarferwyr dynnu o bwll eang o arbenigedd.
  • Llwytho i fyny eich dogfennau ac adnoddau i’w rhannu gydag eraill.
  • Ysbrydoliaeth ac achos meddwl ymhlith Gemau’r Llyfrgell, sydd yn stôr o adnoddau, newyddion, ymchwil, fideos a phodcastau yr ychwanegir atynt yn wythnosol.
  • Tudalennau newyddion i’ch diweddaru gyda gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau, polisi a newyddion ariannu. Ychwanegir cynnwys a newyddion perthnasol i Gymru i’r safle yn rheolaidd.
  • Dyfarniad arfer da.

Mae cymedrolwr y safle yn symud gwybodaeth a chysylltiadau o gwmpas y safle, a gall eich helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth rydych ei angen, neu eich rhoi mewn cysylltiad â phobl all eich helpu.

Dyma rai sylwadau gan aelodau sy’n defnyddio’r safle:

‘Cefais y Gyfnewidfa Addysg yn wir ddefnyddiol ... Mae’n bwll o wybodaeth’  Jacky Elliott, Aelod

‘Diolch yn fawr iawn am eich holl help ddoe i ddod o hyd i ddogfennau imi ar y munud olaf ar gyfer ymgynghoriad fy mhlentyn heddiw. Cefais rai awgrymiadau a syniadau defnyddiol iawn y gallais eu defnyddio heddiw’ Claire Hallam, Aelod

‘Diolch am y gwasanaeth addysgiadol iawn hwn’ Sandra Beeton, Aelod

Ffeindiwch allan fwy ar www.learning-exchange.org.uk

.

 

The Learning Exchange Logo F