Text Size  small fontmedium fontlarge font
ContinYou - Newid bywydau drwy ddysgu
Mae ContinYou yn anelu at agor cyfleoedd dysgu fydd yn helpu pobl i newid eu bywydau, gan wella lles unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Adnoddau

Mae rhestr yn dilyn o ddeunyddiau ac adnoddau i’w llwytho i lawr. Cawsant eu datblygu gan ContinYou Cymru i ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff eraill eu defnyddio i wella dysgu a lles plant a phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau.

Mae deunyddiau ac adnoddau ynglŷn â gwasanaethau estynedig yn Lloegr i’w cael ar ein gwefan Learning Exchange.

Ffocws Cymru

Ein cylchgrawn sy’n cael ei gylchredeg am ddim ddwywaith y flwyddyn i holl ysgolion ac awdurdodau lleol Cymru i dynnu sylw at enghreifftiau o’r ffyrdd mae ysgolion bro a dysgu’r tu allan i oriau ysgol yn cael eu datblygu yn y wlad.

E-gylchlythyr y Gwasanaeth Cefnogi Ysgolion Bro

Cylchlythyr electronig sy’n cael ei gyhoeddi deirgwaith y flwyddyn i gynnal y gwaith o ddatblygu ysgolion bro a dysgu’r tu allan i oriau ysgol. Gallwch chi danysgrifio AM DDIM i e-newyddion y gwasanaeth Cefnogi Ysgolion Bro (SCFS).

Ysgolion bro

Ysgolion Bro – Taflen wybodaeth

Taflen o wybodaeth gefndirol am ysgolion bro.

Ysgolion Bro – gweledigaeth ar y cyd

Datblygwyd gan bartneriaeth rhwng ContinYou Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.

Ysgolion Bro – Gwneud i bethau ddigwydd, Pecyn cymorth

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, mae’r pecyn cymorth yn cael ei weld fel glasbrint ar gyfer datblygu ysgolion bro.

Ysgolion Bro: Papur briffio tlodi plant

Ysgolion: mynd i'r afael â thlodi plant drwy fod â ffocws cymunedol.

Canllawiau i Lywodraethwyr ynglŷn ag Ysgolion Bro

Cafodd y llyfryn ei greu gan bartneriaeth rhwng Llywodraethwyr Cymru a gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n cynnig gwybodaeth a chanllawiau i lywodraethwyr ynglŷn â’r dulliau o weithredu fel ysgol fro.

Papur briffio ynglŷn â chydlyniant cymunedol: Yr heriau a’r cyfleodd i ddysgu’r tu allan i oriau ysgol ac ysgolion bro (2008)

Mae’r papur briffio yma’n ystyried rôl ysgolion bro a dysgu’r tu allan i oriau ysgol fel ffordd o gynnal a chynorthwyo’r gwaith o greu cymunedau cydlynol yng Nghymru.

Creu partneriaethau: gweithio i ddatblygu gwasanaethau estynedig ac ysgolion bro mewn ysgolion arbennig ac yn eu cyffiniau (2008)

Nod y canllawiau (Saesneg yn unig) yma yw lledaenu arferion da i ysgolion y brif ffrwd ac ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio mewn timau aml-asiantaeth i ennyn diddordeb plant ysgolion arbennig yn y dewis o weithgareddau a gwasanaethau sydd ar gael i’w cyfoedion yn ysgolion y brif ffrwd.

Canllawiau ‘dangos y ffordd’ – Cyfarwyddiadau i ysgolion bro ynglŷn â chyfeirio pobl at wasanaethau

Canllawiau i helpu ysgolion i ddatblygu ffyrdd effeithiol o gynnig gwybodaeth am wasanaethau allweddol ac o gyfeirio pobl atyn nhw.

Gwireddu’r weledigaeth: Rôl Dysgu’r Tu Allan i Oriau Ysgol ac Ysgolion Bro yn y gwaith o godi safonau (2008)

Mae’r canllawiau yma’n esbonio sut y gall ysgolion, awdurdodau lleol a’u partneriaid alluogi ysgolion bro a darpariaethau dysgu’r tu allan i oriau ysgol i gynyddu eu heffaith gymaint â phosib.

Ysgolion Bro – Datblygu gofal plant all-ysgol a dysgu y tu allan i oriau ysgol

Crëwyd y daflen gan bartneriaeth rhwng ContinYou a Chlybiau Plant Cymru, ac mae’n cynnig canllawiau cryno ynglŷn â’r gwahaniaethau rhwng datblygu gofal plant y tu allan i oriau ysgol â darparu dysgu’r tu allan i oriau ysgol.

Ysgolion Bro – Gwneud i bethau ddigwydd: rhestr nodi ar gyfer archwilio ar arolygu

Fe fydd fersiwn newydd ar gael cyn bo hir

Crëwyd y llyfryn gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyfraniad gan Estyn i helpu ysgolion sy’n datblygu gwasanaethau a gweithgareddau ysgolion bro gyda’r nod o gyflwyno’r gwaith yn ystod arolwg. Mae’r llyfryn hwn yn ategu’r pecyn cymorth.

Dysgu’r tu allan i oriau ysgol

Canllaw o ‘A’ i ‘Y’ i ddysgu’r tu allan i oriau ysgol

Fel adolygiad o lyfryn ContinYou Cymru Dysgu allan o oriau ysgol: Cod ymarfer, mae’r canllaw ar-lein newydd yma’n cynnal pob agwedd ar y gwaith o ddatblygu a rhedeg dysgu effeithiol y tu allan i oriau ysgol. Yn ategu’r prif ganllaw y mae nifer o ganllawiau cryno sydd wedi’u hanelu at: rieni a gofalwyr, awdurdodau lleol, plant a phobl ifanc, a chyrff yn y sectorau gwirfoddol a chymunedol. Cyfeiriwch hefyd at yr adran ar ein gwefan ar dtaoy.

Canllawiau cryno dtaoy

Rydym wedi datblygu cyfres o ganllawiau bychan y gellir eu llwytho i lawr ddyluniwyd i roddi cefnogaeth a dargedwyd ynglyn a chlybiau/gweithgareddau dysgu tu-allan-i-oriau-ysgol (dtaoy) llwyddiannus.

Dysgu allan-o-oriau-ysgol – Pecyn hyfforddiant ac adnoddau

Pecyn hyfforddi hawdd ei ddefnyddio i staff dysgu ysgolion a staff sydd ddim yn dysgu i’w helpu i ddarparu dysgu effeithiol y tu allan i oriau ysgol.

Ysgolion Bro – Datblygu gofal plant all-ysgol a dysgu y tu allan i oriau ysgol

Crëwyd y daflen gan bartneriaeth rhwng ContinYou a Chlybiau Plant Cymru, ac mae’n cynnig canllawiau cryno ynglŷn â’r gwahaniaethau rhwng datblygu gofal plant y tu allan i oriau ysgol â darparu dysgu’r tu allan i oriau ysgol.

Newydd a Diweddaredig! OwnZone

Canllawiau i ysgolion uwchradd Cymru ynglŷn â sefydlu model OwnZone ContinYou er mwyn cynnig cyfle i bobl ifanc 11-14 oed dreulio amser y tu allan i ddiwrnod yr ysgol mewn lle diogel lle y gallan nhw gael cymorth personol a chyfle i wneud gweithgareddau pleserus a chyffrous.

Newydd! 'Pa mor dda ydym yn ei wneud? Hunanwerthuso darpariaeth dtaoy ar gyfer yr 11 i 16 oed: fframwaith'.

Mae'r fframwaith hwn yn sefydlu proses glir ar gyfer hunan adolygiad, gwerthusiad a chydnabyddiaeth cyflawniad wrthdrosglwyddo darpariaeth dtaoy, yn ogystal â 'lle diogel i fod'. Mae'n edrych ar chwech o'r meysydd mwyaf cyffredin i'w hystyried wrth ddarparu gweithgareddau dtaoy, ac mae'n amlygu beth sydd yn arfer da yn y meysydd hyn. Mae'r fframwaith yn ychwanegu at ganllaw OwnZone ContinYou Cymru.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda swyddfa Caerdydd ar 02920 478928 neu angela.davies@continyou.org.uk.

Clybiau Brecwast Plws – Sut mae sefydlu eich clwb brecwast eich hun a’i gadw’n mynd (2005)

Canllaw defnyddiol i’r rheini sy’n awyddus i sefydlu neu ddatblygu darpariaethau clwb brecwast.

Clybiau Canu a Brecwast

Mae ContinYou a Sing Up yn Lloegr wedi cyfuno’u gwybodaeth am glybiau canu a chlybiau brecwast i ddod at ei gilydd i greu’r adnodd ymarferol ardderchog yma ynglŷn â chanu. Mae ContinYou Cymru’n falch ein bod wedi gallu gwneud defnydd o’r adnodd dwyieithog yma yng Nghymru.

Canllaw Cychwyn Clwb Beicio

Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth yw Clwb Beic, sut mae'n cael ei ariannu a beth yw ei amcanion. Mae hefyd yn cynnig cyngor a gwybodaeth i bobl sydd eisiau sefydlu eu clybiau beic eu hunain yng Nghymru.

Cymru’n Coginio: pecyn cymorth – canllawiau ynglŷn â sefydlu a chynnal clybiau coginio (2008)

Mae’r llawlyfr yma’n cynnig canllawiau ynglŷn â rhedeg clybiau coginio i blant o bob oed mewn ysgolion ac yn y gymuned, ac ynglŷn â chreu perthynas effeithiol â theuluoedd a’r gymuned ehangach.

Pyramid

Poster:

PDFPoster Pyramid Cymru

Defnyddiwch y poster hwn i hybu clybiau lleol Pyramid yng Nghymru.

Taflenni:

Clybiau Pyramid yng Nghymru – gwneud ffrindiau, codi hyder

Taflen ragarweiniol ynglŷn â chlybiau Pyramid yng Nghymru.

PDF

Dod yn un o wirfoddolwyr Pyramid

Mae'r taflen yma i ddarganfod mwy am y manteision o ddod yn arweinydd gwirfoddol a beth mae'n rhaid wneud.

Taflen gwybodaeth:

PDFTaflen gwybodaeth rhieni

Mae'r daflen cyhoeddusrwydd hon ar gyfer clybiau Pyramid i'w galluogi i hysbysebu eu gweithgareddau eu hunain. Mae gofod ar y gwaelod i ychwanegu gwybodaeth leol.

Word Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru (275kb)

Mae'r taflen hon yn esbonio sut mae Pyramid yn cysylltu i gynlluniau ysgolion iach - rhwydwaith Cymru.

Canllawiau:

Gwirfoddoli ac Amrywiaeth - Canllawiau ynglŷn â chynyddu amrywiaeth o fewn Pyramid

Canllawiau sy’n cynnig dewis helaeth o syniadau ac awgrymiadau ymarferol ynglŷn â recriwtio a chynnal gwirfoddolwyr o bob math, a sut mae gwneud y gorau o effaith gwirfoddolwyr ar eich project.

Dod yn fuan:

Llawlyfr hyfforddiant a ffeil y clwb wedi ei ddiweddaru a'i symleiddio.

Codi’ch Llais – Arweiniad i ddatblygu llais plant gydag ysgolion cynradd a chymunedau

Mae’r canllawiau Codi’ch Llais wedi’u seilio ar y project peilot Democratiaeth Gynradd. Mae’r canllawiau’n cynnig gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol i helpu ysgolion cynradd i sefydlu rhaglenni a gweithgareddau dtaoy sy’n rhoi cyfle i blant ‘ddweud eu dweud’.

O’r Cynradd i’r Uwchradd. Symud ymlaen: dysgu allan-o-oriau-ysgol a throsglwyddiad (2005)

Mae’r adnodd yma’n helpu ysgolion i sefydlu rhaglenni dtaoy sy’n cynorthwyo plant sy’n trosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.

Sut i’w wneud e – Arweinlyfr am glybiau darllen

Adnoddau newydd yn cael eu ddatblygu

Sum-it! Clybiau mathemateg Cymru

Adnoddau newydd yn cael eu ddatblygu

Goleuadau, Camera, Ewch!

Nod y canllawiau yma yw helpu pawb sy’n awyddus i sefydlu a rhedeg clybiau ffilmiau fel gweithgareddau dtaoy, a bydd o werth i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Gwneud i waith cartref weithio (2008)

Canllawiau i helpu pobl i sefydlu clybiau gwaith cartref.

Celf@galon: Gweithgareddau dysgu’r tu allan i oriau ysgol ym myd y celfyddydau (2008)

Mae’r canllawiau yma’n cynnig gwybodaeth a chymorth i unrhyw un sy’n awyddus i ddatblygu projectau celf fel gweithgareddau dysgu’r tu allan i oriau ysgol.

Gwireddu’r weledigaeth: Rôl Dysgu’r Tu Allan i Oriau Ysgol ac Ysgolion Bro yn y gwaith o godi safonau (2008)

Mae’r canllawiau yma’n esbonio sut y gall ysgolion, awdurdodau lleol a’u partneriaid alluogi ysgolion bro a darpariaethau dysgu’r tu allan i oriau ysgol i gynyddu eu heffaith gymaint â phosib. Byddan nhw’n gwneud hyn trwy ofalu eu bod yn helpu i godi safonau ac yn mynd yn rhan annatod o flaenoriaethau byd addysg a rhai awdurdodau lleol mewn meysydd fel iechyd, adfywio a’r cynlluniau plant a phobl ifanc.

Papur briffio ynglŷn â chydlyniant cymunedol: Yr heriau a’r cyfleodd i ddysgu’r tu allan i oriau ysgol ac ysgolion bro

Mae’r papur briffio yma’n ystyried rôl ysgolion bro a dysgu’r tu allan i oriau ysgol fel ffordd o gynnal a chynorthwyo’r gwaith o greu cymunedau cydlynol yng Nghymru.

Creu partneriaethau: gweithio i ddatblygu gwasanaethau estynedig ac ysgolion bro mewn ysgolion arbennig ac yn eu cyffiniau

Nod y canllawiau (Saesneg yn unig) yma yw lledaenu arferion da i ysgolion y brif ffrwd ac ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio mewn timau aml-asiantaeth i ennyn diddordeb plant ysgolion arbennig yn y dewis o weithgareddau a gwasanaethau sydd ar gael i’w cyfoedion yn ysgolion y brif ffrwd.

Dysgu’r tu allan i oriau ysgol – Cau’r bwlch rhyw ar gyfer bechgyn (2007)

Mae’r canllawiau yma’n dangos sut y gall dysgu’r tu allan i oriau ysgol helpu i wella cyrhaeddiad bechgyn trwy wella’u gallu i ganolbwyntio, eu cymell i ddysgu a chodi eu hunanhyder.

Cymryd Rhan: Ymestyn dysgu’r tu allan i oriau ysgol i blant mewn gofal a phlant sy’n derbyn gofal yng Nghymru

Atodiad i Gymru i ganllawiau ContinYou Taking Part (2005). Dylid darllen yr atodiad ar y cyd â’r prif ganllawiau.

Cymerwch eich partneriaid yng Nghaerffili

Aeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a ContinYou Cymru ati gyda help llawer o gyrff partner ac ysgolion, a chymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i greu’r pecyn cymorth yma. Pecyn cymorth rhagarweiniol yw Cymerwch eich partneriaid yng Nghaerffili i unrhyw un sy’n awyddus i weithio gyda phartneriaid i gynnig dysgu effeithiol y tu allan i oriau ysgol (dtaoy). Yn y pecyn cymorth y mae dewis o astudiaethau achos defnyddiol, enghreifftiau o’r arferion gorau, awgrymiadau da, rhestri gwirio, adnoddau a dolenni gwefannau.

Meysydd eraill o waith

Arweinwyr Ifanc mewn Cymunedau Egnïol: Model ar gyfer gwirfoddolwyr ifanc (2008)

Adroddiad ar astudiaeth ddichonoldeb sy’n ystyried sut mae annog mwy o bobl ifanc i wirfoddoli trwy gymryd rhan mewn rhaglen i arweinwyr ifanc a thrwy gysylltu â’r datblygiadau ym meysydd dysgu’r tu allan i oriau ysgol ac ysgolion bro.

Eu clywed yn anaml

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac sy’n awyddus i’w galluogi i gyfrannu at y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Portffolio's gwasanaeth

Caffi Sibling

Mae prosiect Caffi Sibling ContinYou yn cefnogi brodyr a chwiorydd plant gydag anghenion addysg arbennig (AAA).

Sgiliau Iechyd

Mae Sgiliau Iechyd yn rhaglen dysgu genedlaethol sy'n mewnblannu sgiliau bywyd i bynciau gwella iechyd.

Clybiau Pyramid

Mae clybiau Pyramid yn cefnogi plant a phobl ifanc gyda phroblemau cymdeithasol ac emosiynol, yn enwedig y rhai sy'n swil, tawel, sy'n mynd i'w cragen ac sydd yn ei chael yn anodd gwneud ffrindiau.

OwnZone

Mae model OwnZone ContinYou Cymru yn ffordd hyblyg o gynnig darpariaeth dysgu tu-allan-i-oriau-ysgol (dtaoy) sy'n cynnwys 'lle diogel i fod' ar gyfer pobl ifanc oed 11 i 16.

 

 

Bachgen yn defnyddio peiriant gwnïo