CânSing
Mae 'CânSing', rhaglen ganu ContinYou Cymru’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dechreuodd fel prosiect peilot a rhedodd o Fehefin 2009 i Orffennaf 2011.
Nod gyffredinol y peilot oedd i godi proffil canu ar hyd a lled Cymru a gwella’i safon trwy gynnig mwy o gyfleoedd i bob plentyn, a gwella safonau’r ddarpariaeth a’r broses o’i rhoi ar waith mewn ysgolion. Mae'r rhaglen wedi'i seilio ar hyfforddi ac adnoddau, yn bennaf, ar gyfer y rheini sy’n gweithio yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, ac felly, mae’n gweithredu fel techneg ddysgu ac ennyn diddordeb ym mlynyddoedd 5, 6 a 7.
Ar ben hynny, bydd y fenter arfaethedig yn cynorthwyo disgyblion sy’n trosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd, a bydd yn cysylltu â dysgu’r tu allan i oriau ysgol (dtaoy) a datblygiadau ysgolion bro. Mae holl ddeunyddiau a’r adnoddau ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Pedair prif elfen y rhaglen peilot oedd:
- deunyddiau a phecyn cymorth
- hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer ysgolion ac awdurdodau addysg lleol
- gwerthuso annibynnol
- dathlu.
Cylchlythyrau
Ffeindiwch allan beth fu'n digwydd drwy ddarllen ein cylchlythyr isod.
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Ionawr 2012 CânSing yng Nghymraeg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Ionawr 2012 CânSing yng Saesneg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Tachwedd 2011 CânSing yng Nghymraeg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Tachwedd 2011 CânSing yn Saesneg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Gorffennaf 2011 CânSing yng Nghymraeg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Gorffennaf 2011 CânSing yn Saesneg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Mehefin 2011 CânSing yng Nghymraeg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Mehefin 2011 CânSing yn Saesneg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Chwefror 2011 CânSing yng Nghymraeg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Chwefror 2011 CânSing yn Saesneg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Medi 2010 CânSing yng Nghymraeg
Llwythwch i lawr gylchlythyr mis Medi 2010 CânSing yn Saesneg
Adnoddau a phecyn cymorth
Mae'r pecyn cymorth yn ei greu’n adnodd hyblyg, datblygol ac yn esblygu i ddiwallu anghenion ysgolion.
Y banc o ganeuon
- Er mwyn ategu’r defnydd o ganu yng nghyd-destun ysgolion, mae adnodd cerddorol/ cyfeilio’n hanfodol.
- Nid nod y llyfr hwn yw cymryd lle cerddoriaeth ddalen, ond bydd yn rhywbeth i staff a phlant ei ddefnyddio ar y cyd â cherddoriaeth gefndirol a lleisiol, er enghraifft, i ddiwallu eu hanghenion orau.
- Mae deunyddiau sy’n bodoli’n barod a deunyddiau newydd yn y llyfr.
Mae holl elfennau craidd yr adnodd yn cael eu creu ar ffurf copi caled ac adnoddau ar y we, er mwyn cynnig dewis i’r rheini sy’n ymwneud â’r prosiect a gwneud y defnydd gorau o’r naill gyfrwng a’r llall.
Er hynny, mae’n bosib hefyd y bydd deunyddiau ychwanegol neu rai arbenigol ar gael arlein yn unig. Y grŵp ymgynghorol fydd yn penderfynu ar hyn, ar sail unrhyw gyfyngiadau technegol.
Hyfforddiant a chefnogaeth
Yn ogystal â’r pecyn cymorth a’r deunyddiau, bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:
- dau ddiwrnod hyfforddi i ffwrdd o’r ysgol (bydd athrawon llanw’n cael eu darparu)
- diwrnodau cymorth ar gyfer clystyrau o ysgolion
- cymorth pwrpasol ychwanegol
- gwaith partneriaeth o fewn y clwstwr.
Model ar gyfer cyflwyno’r hyfforddiant i glwstwr
- Ar lefel awdurdodau lleol, bydd uchafswm o bedwar clwstwr o ysgolion yn cael eu cynnull at ei gilydd ar gyfer hyfforddiant grŵp.
- Mae hyn yn golygu uchafswm o 24 ysgol (er enghraifft, pedair ysgol uwchradd ac 20 ysgol gynradd), a bydd cyllideb y rhaglen yn talu am athrawon llanw ar eu cyfer.
- Bydd yr hyfforddiant a’r cymorth pwrpasol ychwanegol yn cael ei gyflwyno i ysgolion unigol neu i glystyrau o ysgolion yn ôl eu hanghenion penodol.
- Bydd yr ysgolion targed yn cael eu pennu’n lleol, mewn cydweithrediad â’r partneriaid. Er hynny, mae ContinYou Cymru’n awyddus iawn i weld dewis da o wahanol ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun peilot hwn, er enghraifft, ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion Cymraeg, ysgolion dwyieithog ac ysgolion arbennig.
Gwerthuso
Mae rhaglen beilot CânSing wedi bod yn destun gwerthusiad annibynnol yn ddiweddar. Comisiynwyd yr Uned Pobol a Gwaith (PWU) i gyflawni'r dasg ac fe wnaethpwyd hyn gyda brwdfrydedd a phroffesiynoldeb.Mae canlyniadau'r gwerthusiad yn galonogol iawn. Casgliad yr Uned Pobol a Gwaith oedd:
• Dynododd 91% o’r athrawon a gymrodd ran yn sesiynau hyfforddiant y peilot eu bod yn disgwyl y byddai’r arweinlyfr yn cael effaith gadarnhaol ar eu dysgu ac ar addysg y disgyblion. Soniodd nifer o athrawon bod yr arweinlyfr yn hawdd i’w ddefnyddio.
• Cytunodd o gwmpas 95% bod cynnwys yr hyfforddiant ar y ddau ddiwrnod hyfforddi yn canolbwyntio’n benodol ar eu hanghenion. Cyhoeddwyd bod elfennau rhyngweithiol llawn hwyl yr hyfforddiant wedi symbylu’r staff.
• Dywedodd 90% o’r sawl wnaeth ymateb i’r arolwg eu bod fwy hyderus wrth gyflwyno gweithgareddau canu. Mae’r gwerthusiad yn nodi bod ‘tystiolaeth gref o’i effeithiolrwydd a’i boblogrwydd gydag ysgolion, plant a phobol ifanc o fewn y rhaglen; mae yna ddadl gref, felly, o blaid cynnal y rhaglen.’ Rydym wrth ein bodd â'r canlyniadau hyn, ac mae'n cadarnhau yr hyn yr oeddwn ni fel tîm fu’n gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen wedi ei weld a’i brofi ar hyd y cynllun peilot.
Gwerthusiad CânSing - adroddiad terfynol Gorffennaf 2011
Yn dilyn y gwethusiad cadarnhaol mae Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cytuno I gefnogi CânSing i’r flwyddyn academaidd nesaf.
Mae cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru yn gam cadarnhaol iawn ar gyfer y rhaglen CânSing ac mae’n sicrhau y bydd adnoddau ar lein yn dal ar gael hyd at o leiaf fis Mawrth 2012. Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi i fwy o ysgolion dderbyn y pecyn cefnogi CânSing llawn ac i lawer dderbyn hyfforddiant ‘adfywiol’, gan amlygu deunyddiau a thechnegau newydd i’r rhai sydd eisoes wedi cyfranogi yn y peilot gan sicrhau nad yw momentwm yn cael ei golli.
Byddwn yn dal i gasglu tystiolaeth o lwyddiant y rhaglen a defnyddio hyn i helpu i sicrhau dyfodol hir dymor mwy sefydlog i CânSing.
Digwyddiad dathlu
Roedd Diwrnod Cyntaf Cenedlaethol CânSing ddydd Mawrth 21 Mehefin 2011 - i gydfynd gyda Diwrnod Cerdd y Byd! Roedd ysgolion a gymerodd ran yn y rhaglen yn derbyn e-becyn o ddeunyddiau newydd sbon danlli gan gynnwys ceneuon newydd, deunyddiau cefnogi, ymgynhesu, posteri, ayyb a llawer mwy.
Drefnwyd ysgolion o bob cwr o gymru eu digwyddiadau eu hunan i ddathlu eu hymglymiad yn y rhaglen. I gael gwybod am yr hyn a ddigwyddodd ar y ddiwrnod, gewch gweld y fwletin arbennig.
Cyfathrebu
Dylai unrhyw un sy’n awyddus i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y fenter hon gofrestru gyda Suzanne Barnes, Rheolwr y Prosiect (suzanne.barnes@continyou.org.uk)
neu Eleri Williams (eleri.williams@continyou.org.uk) neu drwy ffonio’n swyddfa yng Nghaerdydd ar 02920 478928.
Wefan: www.cansing.org.uk
