Text Size  small fontmedium fontlarge font
ContinYou - Newid bywydau drwy ddysgu
Mae ContinYou yn anelu at agor cyfleoedd dysgu fydd yn helpu pobl i newid eu bywydau, gan wella lles unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Clybiau Pyramid yng Nghymru

Mae clybiau Pyramid yn cynorthwyo plant trwy wella’u hunanhyder a’u helpu i wneud ffrindiau, ac mae hyn yn aml yn eu helpu i deimlo’n hapusach, i fwynhau’r ysgol yn fwy ac yn fwy parod i ddysgu.

PDFLlwythwch i lawr (618kb) ein taflen i ddysgu mwy am glybiau Pyramid yng Nghymru.

PDF

Llwythwch i lawr (932kb) ein poster i'w ddefnyddio i hybu clybiau lleol Pyramid yng Nghymru.

Word

Llwythwch i lawr (275kb) Mae'r taflen hon yn esbonio sut mae Pyramid yn cysylltu i gynlluniau ysgolion iach -  rhydwaith Cymru.

Mae clybiau Pyramid ar waith ar hyn o hyd mewn ysgolion yn yr ardaloedd sy’n dilyn:

Ynys Môn
Caerffili
Caerdydd
Ceredigion
Sir Ddinbych
Powys
Torfaen
Gwynedd

PDFLlwythwch i lawr (210kb) y daflen cyhoeddusrwydd hon i hysbysebu eich clwb Pyramid. Mae gofod ar y gwaelod lle gallwch ychwanegu eich gwybodaeth eich hunan.

Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am ddatblygu clybiau Pyramid yn eich ardal chi. 

Beth sydd mor arbennig am glybiau Pyramid?

  • Maen nhw’n cael eu rhedeg gan o leiaf tri arweinydd sydd wedi cael eu hyfforddi’n arbennig.
  • Maen nhw’n digwydd ar ôl oriau’r ysgol, am ddeg wythnos.
  • Mae pob sesiwn yn para tuag awr a hanner.
  • Mae’r clybiau am ddim.
  • Mae’r clybiau’n cynnig llawer o hwyl – ymhlith y gweithgareddau y mae coginio, celf a chrefft, gemau awyr agored a rhan dan do, a chwarae egnïol.
  • Dim ond plant y mae’r ysgol neu ddarparwr arall wedi’u dewis sy’n cael mynd i’r clwb.

Ydyn nhw’n gweithio?

Ydyn! Mae gwerthusiadau a gwaith ymchwil annibynnol yn dangos bod plant sy’n mynd i glybiau Pyramid yn fwy hyderus. Trwy fod yn rhan o grŵp bach a diogel, maen nhw’n well am wneud ffrindiau, yn hapusach ac yn fwy hyderus – ac felly maen nhw’n mwynhau’r ysgol yn fwy ac yn fwy parod i ddysgu.

Ewch i dudalen gartref Pyramid ar wefan ContinYou i gael mwy o wybodaeth gyffredinol.

Pyramid i Rieni

Mae’r rhaglen grŵp-gwaith Pyramid i Rieni wedi cael ei llunio’n bwrpasol i wella sgiliau rhieni a’u helpu i ddeall sut mae gwella lles emosiynol eu plant. Mae’r grwpiau yma’n cynnig cyfle i rieni ddod at ei gilydd a rhannu profiadau, i’w cynnal ei gilydd ac i wella’u perthynas â’u plentyn. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy neu i drafod rhedeg Pyramid i Rieni eich ardal.

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant clybiau Pyramid. Llwythwch i lawr ein canllawiau (mae’r ddolen yn dilyn), i gael syniadau ac awgrymiadau ymarferol ynglŷn â recriwtio a chynorthwyo dewis helaeth o wirfoddolwyr, ac i ddysgu sut mae gwneud y gorau o’r effaith mae gwirfoddolwyr yn ei chael ar eich prosiect.

PDFCanllawiau ynglŷn â gwirfoddoli ac amrywiaeth (276kb)

I ddarganfod mwy am y manteision o ddod yn arweinydd gwirfoddol a beth mae'n rhaid wneud cewch lawrlwytho'r taflen yn isod.

PDFTaflen Arweinydd Gwirfoddol Pyramid

Astudiaethau achos

Darllenwch yr astudiaethau achos isod i ddysgu sut mae darpariaeth Pyramid yn cael ei ddatblygu gan ysgolion yng Nghymru.

WordClwb Pyramid yng Ngheredigion 212KB

WordClwb Pyramid yng Nghaerdydd 229KB

WordClwb Pyramid yn Sir Ddinbych 211KB

WordProsiect cymunedol haf Trawsnewid Pyramid

Peoples postcode logo

Bachgen yn peintio murol ar y llawr