Dolenni defnyddiol
Cronfa’r Loteri Fawr
Mae Cronfa’r Loteri Fawr yn bodoli’n unswydd i ofalu bod arian y loteri’n cynnig y gwerth gorau posib am arian. Cronfa yw yn bennaf i elusennau a chyrff y sector gwirfoddol ond bydd hefyd yn gweithredu gallu Comisiwn y Mileniwm i ariannu projectau adfywio sylweddol.
Draig Ffynci
Nod y Ddraig Ffynci yw cynnig cyfle i bobl ifanc dan 25 oed roi eu barn ar y materion sy’n effeithio arnyn nhw. Ei phrif flaenoriaeth yw caniatáu i leisiau plant a phobl ifanc gael eu clywed, yn arbennig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac i annog pobl ifanc i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau cenedlaethol. Mae’r safle wedi’i anelu at y bobl ifanc eu hunain ac at y rheini sy’n gweithio gyda phobl ifanc.
Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu yng Nghymru
Mae’r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu yng Nghymru (GCaD) yn cynnig dolenni â gwefannau sy’n cynnig cynnwys a gwybodaeth o safon am adnoddau addysgol. Nod GCaD yw helpu dysgwyr ac addysgwyr yn y Deyrnas Unedig i elwa ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh). Nod y wefan yw cynnig dewis helaeth o wasanaethau dwyieithog fel adnoddau dysgu a chronfeydd data.
Cyngor Chwaraeon Cymru
Prif gyfrifoldebau Cyngor Chwaraeon Cymru yw datblygu a hyrwyddo chwaraeon a hamdden yng Nghymru. Mae gwybodaeth ar y wefan am yr arian sydd ar gael i bobl ifanc sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon yn eu hardal.
Cymru ar y We
Cymru ar y We yw’r prif borth cenedlaethol i unrhyw un, waeth ym mha ran o’r byd y maen nhw, chwilio am wybodaeth a gwasanaethau’n gysylltiedig â Chymru. Llwybr ar-lein yw’r wefan at wefannau o safon sydd wedi’u dilysu, ac sy’n cynnig gwybodaeth ddibynadwy am Gymru a phob agwedd ar fywyd y genedl.
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu a rhoi ar waith bolisïau a rhaglenni ar gyfer yr holl faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru. Mae’r wefan hon yn cynnig gwybodaeth am hoff feysydd gwaith Llywodraeth y Cynulliad, ac mae’n disgrifio cynlluniau strategol a phrif themâu’r llywodraeth.
Cyngor Llyfrau Cymru
Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n bodoli’n unswydd i wella safonau’r gwaith o greu a chyhoeddi llyfrau yng Nghymru ac i hyrwyddo darllen a llythrennedd yng Nghymru. Mae gwybodaeth ar wefan y Cyngor am lythrennedd yng Nghymru, ynghyd â gwybodaeth am lyfrau Cymraeg a chyhoeddiadau eraill y Cyngor Llyfrau.
Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid (Safle Saesneg yn unig yw hwn)
Mae Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid (YST) wrthi’n cyflwyno addysg gorfforol i bobl ifanc o bob gallu. Mae gwybodaeth ar wefan yr Ymddiriedolaeth am raglenni chwaraeon, a dolenni at gynghorau chwaraeon a safleoedd perthnasol y llywodraeth.
