Gwybodaeth am ContinYou Cymru
ContinYou Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n defnyddio ffyrdd arloesol i gynnal dysgu gydol oes ar hyd a lled Cymru.
Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae pawb yn cael cyfle i wella’u dysgu a’u lles.
Rydyn ni’n gwneud hyn trwy helpu i gynnig cyfleoedd dysgu y gall pawb fynd atyn nhw’n rhwydd, trwy:
- weithio i roi sylw i anghenion plant a phobl ifanc, ysgolion, teuluoedd a chymunedau
- gweithio gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol
- rhannu gwybodaeth am ‘y pethau sy’n gweithio’ â phobl eraill
- a gweithredu fel corff sy’n hybu gwahanol ffyrdd o wella dysgu a lles.
Ewch i’r dudalen Ein gwaith yng Nghymru i ddysgu mwy am ein dulliau gweithredu.
Taflen ContinYou Cymru
Mae’r aelodau o dîm ContinYou Cymru’n gweithio ar hyd a lled y wlad ac mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod ein gwaith.
Mae ContinYou Cymru wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth i ni wneud ei waith cyhoeddus yng Nghymru. Mae ein Cynllun Iaith yn disgrifio sut y byddwn ni’n cyflawni hyn wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.
