Projectau eraill sy’n cael eu hariannu
Mae ContinYou Cymru’n cynnig dewis helaeth o raglenni, projectau, hyfforddiant, cymorth, adnoddau a digwyddiadau. Mae gwybodaeth yn dilyn am ein projectau presennol sy’n cael eu hariannu o nifer o ffynonellau.
Dysgwch fwy am ein gwaith yng Nghymru.
Projectau presennol
Gwirfoddoli mewn Cymunedau Egnïol (V4AC): Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sy’n ariannu project peilot tair blynedd o hyd (Ebrill 2007-Mehefin 2010) ContinYou Cymru. Ei nod yw achredu oedolion sy’n gwirfoddoli i arwain gweithgareddau dysgu’r tu allan i oriau ysgol.
Bike Club yng Nghymru: Mae’r Bike Club yng Nghymru’n defnyddio gweithgareddau beicio i annog mwy o bobl i feicio, i fod yn fwy egnïol, i wella’u hiechyd, i ddysgu ac i gynyddu cynhwysiant cymdeithasol i bawb sy’n cymryd rhan, waeth beth yw eu cefndir, eu hincwm neu eu hethnigrwydd. Mae’r Bike Club (www.bikeclub.org.uk) yn cael ei ddatblygu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.
Projectau blaenorol
Arweinwyr Ifanc ar gyfer Cymunedau Byw: astudiaeth dichonoldeb a edrychodd ar y potensial i ddatblygu dewis o gyfleoedd gwirfoddoli trwy gymryd rhan mewn rhaglen i arweinwyr ifanc a chysylltu â dysgu’r tu allan i oriau ysgol (dtaoy) a datblygiadau ym maes ysgolion bro.
Prosiect hynod o lwyddiannus a gafodd ei ariannu gan Gynulliad Cymru oedd Cymru’n Coginio. Ei nod oedd cynnal y gwaith o ddatblygu clybiau coginio gyda phlant, pobl ifanc a’u cymunedau. Arweiniodd ContinYou Cymru sesiynau hyfforddi pwrpasol yn ardaloedd pob un o’r 22 o awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru, rhwng 2007 a 2009.
