Ysgolion bro
‘Mae ysgol sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn ysgol sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau, yn aml y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, i helpu i ddiwallu anghenion ei disgyblion, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.’ (Ysgolion Bro, Cylchlythyr rhif 34/2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru wefan)
Mae plant a phobl ifanc yn dysgu’n well ac maen nhw mewn lle gwell i gyflawni eu potensial os ydyn nhw’n hapus ac yn iach. Mae ymchwil yn dangos y gall nifer o wahanol ffactorau’r tu allan i’r ysgol effeithio ar les plant a phobl ifanc, ac ar eu gallu i ddysgu a chyflawni’n effeithiol yn yr ysgol. Mae dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn golygu bod ysgolion yn gweithio mewn partneriaethau gyda chynghorau a phobl eraill i roi sylw i’r ffactorau hyn ac i helpu i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc. Mae gweithredu fel hyn yn tanlinellu rôl graidd ysgolion i wella dysgu a lles, yn ogystal â helpu i roi sylw i anghenion teuluoedd a chymunedau.
'Nid yw canlyniadau addysg yn dibynnu ar ysgolion yn unig. Dylanwadir arnynt gan amryw o wahanol ffactorau yn cynnwys tlodi, amgylchiadau teuluol, tai ac iechyd.’ (Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion: Creu cymunedau dysgu effeithiol gyda’n gilydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Chwefror 2008).
Mae datblygu ysgolion bro’n rhan o’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion; mae angen i ysgol effeithiol fod yn ysgol sy’n rhoi pwyslais ar ei chymuned.
Dysgwch fwy am ysgolion bro drwy ddarllen ein taflen wybodaeth.
Datblygiadau ym maes ysgolion bro yng Nghymru a’r tu hwnt iddi
Er 2005, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi neilltuo peth arian i’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru i ddatblygu ysgolion bro yn eu hardaloedd, a bydd yr arian hwnnw’n parhau ar gael hyd at 2011. Mae pob un o’r awdurdodau lleol wedi dynodi swyddog i fod yn gyfrifol am ddatblygu ysgolion bro. I gael enw’r swyddog yn eich ardal, anfonwch e-bost atom.
Mae ContinYou Cymru hefyd yn cyfrannu at waith rhyngwladol ar ysgolion.
Mwy o wybodaeth a chymorth
Mae ContinYou Cymru’n rhedeg y Gwasanaeth Cefnogi Ysgolion Bro (SCFS) y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei ariannu i helpu’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru a chyrff eraill i ddatblygu a chynnal y gwaith o ddatblygu dulliau gweithredu ysgolion sy’n rhoi pwyslais ar eu cymunedau.
Am fwy o wybodaeth am y Gwasanaeth SCFS anfonwch e-bost atom.
Ewch i’n hadran Adnoddau i gael deunyddiau a gwybodaeth a allai gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu ysgolion bro. Yn eu plith y mae:
Ysgolion Bro – gweledigaeth ar y cyd
Datblygwyd gan bartneriaeth rhwng ContinYou Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.
Ysgolion Bro, Gwneud pethau ddigwydd: pecyn cymorth
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, mae’r pecyn cymorth yn cael ei weld fel glasbrint ar gyfer datblygu ysgolion bro.
Ysgolion Bro: Pecyn i Lywodraethwyr
Cafodd y llyfryn ei greu gan bartneriaeth rhwng Llywodraethwyr Cymru a gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n cynnig gwybodaeth a chanllawiau i lywodraethwyr ynglŷn â’r dulliau o weithredu fel ysgol fro.
Ysgolion Bro – Gwneud pethau ddigwydd: rhestr nodi ar gyfer archwilio ac arolygu
Crëwyd y llyfryn gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyfraniad gan Estyn i helpu ysgolion sy’n datblygu gwasanaethau a gweithgareddau ysgolion bro gyda’r nod o gyflwyno’r gwaith yn ystod arolwg. Mae’r llyfryn hwn yn ategu’r pecyn cymorth.
Canllawiau ‘dangos y ffordd’ – Cyfarwyddiadau i ysgolion bro ynglŷn â chyfeirio pobl at wasanaethau
Canllawiau i helpu ysgolion i ddatblygu ffyrdd effeithiol o gynnig gwybodaeth am wasanaethau allweddol ac o gyfeirio pobl atyn nhw.
Darllenwch flog Keith Towler (Comisiynydd Plant Cymru) ynglŷn â’i ymweliad diweddar y tu allan i oriau ysgol â Choleg Cymunedol Tonypandy.
Mae ContinYou Cymru hefyd yn cynnig dewis helaeth o wasanaethau a rhaglenni eraill sy’n cynorthwyo ysgolion bro a datblygiadau eraill ym maes dysgu’r tu allan i oriau ysgol.
