Pedwaredd gynhadledd flynyddol ContinYou Cymru
Ewch â’ch partneriaid
Rôl partneriaid yn y gwaith o ddatblygu ysgolion bro a dysgu y tu allan i oriau ysgol
Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2008 (o 9am i 3.30pm)
Canolfan Gynadledda’r Pafiliwn Spa Road, Llandrindod
Am y digwyddiad
Bydd y gynhadledd hon yn cynnig cyfle delfrydol i glywed gan ddewis eang o bartneriaid cenedlaethol sy’n cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu ysgolion bro a gweithgareddau dysgu y tu allan i oriau ysgol, ac i ymwneud â nhw.
Bydd sesiynau galw heibio’n cynnig enghreifftiau o arferion da wrth weithio gyda phartneriaid i sicrhau:
- gwaith aml-asiantaeth
- dysgu y tu allan i oriau ysgol
- dysgu fel teulu a chymuned
- effeithiolrwydd ysgolion.
Pwy ddylai ddod?
Bydd y gynhadledd yn ddefnyddiol i bawb sy’n rhan o’r gwaith o ddatblygu ysgolion bro a dysgu y tu allan i oriau ysgol, yn cynnwys:
- awdurdodau lleol
- ysgolion a llywodraethwyr
- gwasanaethau iechyd
- partneriaethau plant a phobl ifanc
- mudiadau gwirfoddol a chymunedol
- Partneriaethau Cymunedau’n Gyntaf.
Cost: £75
Yn unol â thema ein cynhadledd ‘ewch â’ch partneriaid’, bydd neilltuo lle’n caniatáu i chi ddod â chynadleddwr
Ffurflen neilltuo lle:
| Attachment | Size |
|---|---|
| Pedwaredd gynhadledd flynyddol ffurflen neilltuo lle.pdf | 104.4 KB |


