Dysgu tu allan i oriau ysgol (Dtaoy)
Beth yw dysgu tu allan i oriau ysgol (dtaoy)?
Mae dysgu tu allan i oriau ysgol yn weithgaredd gwirfoddol gan bobl ifanc allan o oriau arferol ysgol. Gall dtaoy ddigwydd.
- cyn dechrau oriau diwrnod ysgol
- yn yr awr ginio
- ar ôl ysgol
- ar benwythnosau
- yn ystod gwyliau ysgol.
Gallant cael eu darparu trwy’r ysgol neu gan amrediad o ddarparwyr eraill mewn amryw o leoliadau. Er mae’r prif ddiben yw galluogi pobl ifanc i ymddiddori mewn diddordeb penodol neu i gyflawni angen neilltol, un canlyniad cadarnhaol pwysig yw’r gwelliant yn eu cymhelliad a’u hunan-barch, a’u gallu i ddod yn ddysgwyr gydol oes llawer mwy effeithiol.
Mae erbyn hyn dysiolaeth gadarn sy’n profi fod disgyblion sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni dysgu tu allan i oriau ysgol i:
- meddu gwell hunan-barch
- dangos agwedd fyw gadarnhaol tuag at ddysgu
- mynychu’r ysgol yn fwy rheolaidd
- ymddwyn yn well
- cael cyfloedd i ddatblygu perthynas gyda disgyblion ac oedolion tu hwnt i’w cylch cydnabod arferol
- cyrraed lefel cyrthaeddiad uwch na’r grwpiau cyffelyb o ddisgyblion na fuont yn rhan o’r gweithgareddau.
Mae’r dystiolaeth a gasglwyd am y manteision hyn yn cybbwys canlyniadau astudiaeth tair blynedd ar effaith cyfranogi mewn cyfleoedd cefnogi astudio, (dysgu tu allan i oriau ysgol), ac fe’i cyflawnwyd gan Ganolfan Ansawdd mewn Addysg, Prifysgol Strathclyde.




